Croesawodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews AC ymateb gadarn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)) wrth wrthod yr holl gynlluniau ffioedd a gyflwynwyd gan Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch Cymru.
Fe wnaeth y datganiad wrth ateb cwestiynau am ei bortffolio ar 15 Mehefin 2011.
Rhaid i Gynlluniau Ffioedd Prifysgolion Cymru gael eu harchwilio a'u cymeradwyo gan CCAUC os ydynt am osod eu ffioedd yn uwch na £4,000 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13.
Mae prifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, Morgannwg a Chasnewydd eisoes datgan eu bwriad i osod y ffioedd ar yr uchafswm o £9,000 ar gyfer rhai cyrsiau.
Yn ôl Mr Andrews: "Mae'n amlwg fod ein Sefydliadau yn awyddus i godi'r ffioedd uwch felly bydd angen iddynt ddangos i CCAUC eu bod yn bodloni ein gofynion o ran ehangu mynediad i bawb.
"Mae'n amlwg nad yw nhw, ac felly rwy'n croesawi ac yn cefnogi penderfyniad CCAUC i ofyn iddynt ail-edrych ar eu cynlluniau.
"Mae'n rhaid i ni gefnogi ein myfyrwyr a'u helpu sut bynnag y gallwn"
Bydd myfyrwyr yng Nghymru yn talu tua £3,400 a llywodraeth y cynulliad yn talu'r hyn sy'n weddill.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd ateb cwestiynau ar ddysgu ieithoedd modern mewn ysgolion, hybu dysgu fel gyrfa a lefelau anllythrennedd mewn plant 11 mlwydd oed.