Dwi wedi dechrau ysgrifennu colofn wythnosol yn y cylchgrawn Golwg. Bydd y trydedd colofn yn y cylchgrawn yfory. Dyma'r ail colofn:
Achub yr Undeb
Ro’n i yn Llundain yr wythnos ’ma, i drafod dyfodol yr undeb gyda’r cyn-AS Adam Price a Dirpwy Lywydd y Cynulliad David Melding, ar ôl iddo fe lansio ei lyfr newydd sy’n trafod ble nesaf ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Fel y dwedais i yn fy ngholofn ddiwethaf, mae’n rhaid i’r ymgyrch ‘Better Together’ yn yr Alban ddatblygu neges bositif i esbonio pam mae’n rhaid i’r Alban aros yn yr undeb.
Mae safle we ‘Better Together ‘yn dweud:
Nid ein safbwynt ni yw na allai’r Alban oroesi fel gwlad ar wahân - ond fod yna ddewis gwell ar gyfer ein dyfodol.
Esbonio hynny gydag esiamplau yw’r tasg nesaf. Dw i’n meddwl bod ‘Better Together ‘wedi bod yn hollol llwyddiannus yn amlygu’r problemau gydag achos annibynniaeth – y berthynas gydag Ewrop, rôl ariannol y bunt a rôl y Frenhines, Mae’r polau piniwn yn cefnogi’r safbwynt y bydd yr Alban yn pleidleisio ‘na’ yn y refferendwm, ond dw i ddim am gam asesu Alex Salmond. Boi clyfar, yw e, a mae gyda fe flwyddyn i newid pethau.
Wrth gwrs bydd y dewis ar gyfer Albanwyr yn unig. Ond, dw i ddim yn meddwl bod gweld yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig yn mynd i helpu Cymru.
Dw i moyn gwneud pwyntiau perthnasol i’r ddadl. Mae’n bwysig i esbonio llwyddiant datganoli – mae datganoli yn dangos hyblygwrydd yr Undeb. Mae datblygu cenedl yn broses adnewyddu. Nid yw’n chwyldro sydyn. Mae’r Alban wedi datblygu polisïau gwahanol a diddorol achos bod datganoli yn bodoli.
Wedi’r cyfan, nid yw’r Alban yn wlad fel De Affrica, sy’n gadael y tu ol iddi hanes Apartheid; nac yn wlad fel Chile, sy’n symud o fod yn deyrn lywodraeth; nac yn wlad ddwyreiniol Ewropeaidd sy’n gadael yr Undeb Sofietaidd. Fydd 2014 ddim yn ‘Year Zero’.
Mae’n bwysig hefyd bod gweinidogion yn Llundain yn deall datganoli yn well. Mae gyda ni nawr dri math o weinidog yn Llundain: rhai, fel yr Ysgrifennydd Tramor a’r Ysgrifennydd Amddiffyn, sy’n weinidogion ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan; un neu ddau fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, gyda chyfrifoldeb Prydeinig, sy’n dibynnu ar rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan lywodraeth ddatganoledig – er enghraifft sgiliau a hyfforddiant; ac erall, fel yr Ysgrifennydd Iechyd a’r Ysgrifennydd Addysg sydd â chyfrifoldeb yn bennaf ar gyfer Lloegr yn unig. Mae’n rhaid i ni gael agenda parch go iawn gyda’r gweinidogion hyn.
Wedyn, y cyfrwng. Mae’n amlwg nad yw papurau fel y Daily Telegraph a’r Daily Mail yn hoffi datganoli. Dwi’n cofio’r penawdau pan gyhoeddais i gynlluniau gwahanol ar gyfer ffioedd myfyrwyr yng Nghymru. Ond, os ydyn nhw moyn helpu’r achos ar gyfer perswadio’r Alban i aros yn yr Undeb, mae’n rhaid iddyn nhw newid. Mae’n bwysig fod y darlledwr Prydeinig, y BBC, yn stopio gwneud camgymeriadau amlwg a syml, hefyd wrth son am Gymru a’r Alban.
Mae’n bwysig, felly, i newid hinsawdd a chyd-destun y ddadl yn y Deyrnas Unedig yn ogystal ag yn yr Alban.
Ar ôl datganoli, mae’n amlwg fod yr Undeb wedi newid. Gall yr Undeb ddatblygu ymhellach.
Comments