Yn ddiweddar, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith ataf yn gofyn am gael cyfarfod â mi i drafod fy mhenderfyniad i beidio â pharhau â safonau drafft y Comisiynydd. Cytunodd fy swyddfa i’r cyfarfod. Drannoeth, pan gyrhaeddais gynhadledd Dathlu’r Gymraeg yn Rhydaman, cefais fy nghroesawu gan brotest gan Ffred Ffransis a'i griw a’u camerau. Ar y ffordd i mewn, gofynnwyd i mi pam fy mod i wedi gwrthod y safonau. Gan fy mod i eisoes wedi esbonio’r rhesymau yn y Senedd, wnes i ddim trafferthu ateb. Dywedais “Sut mae?”, a cherddais heibio’r protestwyr.
Ar ôl cyflwyno fy araith ac ateb cwestiynau – mewn awyrgylch hwylus – gadewais yr adeilad i weld protestwyr yn fy nghar a’r heddlu’n bresennol.
Hurt bost.
Dychwelais i’r gynhadledd ac fe welais Colin Nosworthy, trefnydd ymgyrchoedd hollbresennol y Gymdeithas. 'Colin', dywedais. 'Ydych chi’n cofio’r cyfarfod y gofynnodd Cymdeithas amdano? Os na wnewch chi gael y bobl yna allan o ‘nghar i, bydd y cyfarfod yn cael ei ganslo.'
Ddwy funud yn ddiweddarach, roeddem ni ar y ffordd.
Rwy’n hoffi Colin.
Pan oedd e’n aelod o’r grŵp a etifeddais gan Alun Ffred ar Strategaeth y Gymraeg, rwy’n cofio iddo ddweud wrtha i mai fe oedd un o’r bobl brin o amgylch y bwrdd nad oedd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Roedd e’n iawn. O ganlyniad, penderfynais gael gwared ar y rhan fwyaf o’r grwpiau oedd yn cynnwys yr un hen wynebau. Fel y dywedais yn Strategaeth y Gymraeg, roeddwn i am i leisiau newydd ymuno â’r ddadl.
Rwy’n hoffi Colin.
Fel y dywedais wrth Colin yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd, pe bai Alun Ffred wedi dilyn y camau a gymerais mewn perthynas â chynigion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer Ofcom, gallai Cynllun Iaith Gymraeg fod wedi’i orfodi ar Ofcom flwyddyn yn gynt. Does gen i ddim problem gyda phobl yn teimlo’n angerddol am yr ymgyrch gwbl angenrheidiol i warchod y Gymraeg.
Does gen i ddim problem gyda phobl yn gweithredu’n uniongyrchol mewn perthynas â’r iaith. Wedi’r cyfan, dyna’n union beth wnes i yn y saithdegau.
Cyn y Cynulliad Cenedlaethol. Cyn S4C. Cyn Mesur y Gymraeg. Cyn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Cyn y Ddeddf Safonau Ysgolion, sy’n deddfu ar gyfer cynnal asesiadau go iawn o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.
Gall Vaughan Roderick gadarnhau hyn. Roedd e yno.
Yn anffodus, mae’n ymddangos bod y Gymdeithas wedi datblygu’n un o’r sefydliadau hynny y rhybuddiais amdanynt yn Strategaeth yr Iaith Gymraeg, nad ydynt eto wedi ymgyfarwyddo â datganoli. Fel S4C cyn penodiad Ian Jones, fel CBAC, fel Prifysgol Cymru, fel y 22 awdurdod addysg lleol ac fel yr Eisteddfod.
Os yw’r Gymdeithas am fod yn rhan o’r sgwrs fawr ar ddyfodol yr iaith, yna mae pob croeso iddynt. Ond allan nhw ddim eistedd o amgylch y bwrdd trafod a cheisio atal eraill rhag gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i’w wneud ar yr un pryd.
Mae’r Gymdeithas wedi troi’n hanner cant bellach, ac mae’n bryd iddi dyfu i fyny.
Comments