Bydd gan fyfyrwyr rhan-amser, sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, yr hawl i'r un cymorth â ffioedd â'r myfyrwyr sy'n dewis astudio'n llawn-amser yn ôl y Gweinidog Addysg ar 21 Mehefin 2011.
Dwedodd y safle BBC:
Wrth annerch y cynulliad, amlinellodd Leighton Andrews AC ei gynlluniau i ddiwygio'r modd y caiff addysg uwch rhan-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.
Yn amodol ar y Bil Addysg, mae'r Gweinidog yn cynnig pennu uchafswm o £7,000 pro rata o ran ffioedd dysgu rhan-amser yn hytrach na £9,000 er mwyn annog rhagor o ddysgwyr i ddilyn cyrsiau addysg uwch yn rhan-amser.
Croesawodd Simon Thomas AC Plaid Cymru y datganiad a'r gefnogaeth a nodwyd a phwysleisiodd y dylai unrhyw newid i'r system sicrhau bod myfyrwyr rhan a llawn amser yn cael eu trin yn gyfartal.
By Angela Burns AC De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin yn dadlau fod yn fod angen i Lywodraeth Cymru i ymgynghori'n llawn gyda sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i drefniadau ariannu ar gyfer addysg uwch rhan-amser
Comments